Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Mehefin 2018
Amser:
14.06 -
16.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4748
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Vikki Howells AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Iestyn Davies, Colleges Wales Judith Evans, Coleg y Cymoedd Paula Ham, Cyngor Bro Morgannwg Guy Lacey, Coleg Gwent Dr Chris Llewelyn, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas CBE - Archwilydd Cyffredinol Cymru Mark Jeffs |
Staff y Pwyllgor: |
Matthew Mortlock Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.
1.3 Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar dderbyn CBE i gydnabod ei wasanaethau i Archwilio ac Atebolrwydd Cyhoeddus yng Nghymru, yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 O ran yr ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, cytunodd y Cadeirydd i gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru ynghylch yr adolygiad thematig maent yn ei gynnal y disgwylir i adroddiad gael ei gyflwyno arno ym mis Mawrth 2019. Yn dilyn gwybodaeth a chyngor gan Archwilydd Cyffredinol, cytunwyd cynnal sesiwn dystiolaeth arall fel rhan o ymchwiliad Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru cyn diwedd tymor yr haf.
3.1 Nododd y Pwyllgor yr ymatebion a chytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ar nifer o'r ymatebion i argymhellion y Pwyllgor.
4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
5.1 Clywodd Aelodau dystiolaeth gan Dr Chris Llewelyn, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, Cyngor Bro Morgannwg fel rhan o'r ymchwiliad i Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.
5.2 Cytunodd Dr Llewelyn i anfon rhagor o wybodaeth yn amlinellu buddion/manteision awdurdodau lleol sy'n defnyddio'r model buddsoddi ar y cyd yn lle eu pwerau benthyca eu hunain.
6.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Iestyn Davies, Prif Weithredwr, Colegau Cymru, Judith Evans, Pennaeth, Coleg y Cymoedd, a Guy Lacey, Pennaeth, Coleg Gwent, fel rhan o'r ymchwiliad i Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Nododd yr Aelodau y bydd papur pellach ar gael iddynt i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 25 Mehefin.